Mae teithiau
beicio wedi'u tywys yn ffordd wych o weld Cymru ar gefn beic, heb orfod poeni am unrhyw beth.
Rydych yn ymuno â grwp bychan o rhwng pedwar ac wyth, ac mae tywysydd gyda chi drwy'r adeg. Mae dyddiadau ymadael gosod ar gyfer y gwyliau a rhoddir y manylion yng nghrynodebau'r teithiau isod.
Beth sy'n cael ei gynnwys ar
daith dywys?
Eich danfon/casglu yn yr orsaf rheilffordd agosaf ar ddechrau a diwedd y daith.
Llety mewn B&B a gwestai o safon.
Pecyn cinio blasus bob dydd, wedi'i baratoi gyda chynhwysion lleol o ansawdd da.
Trosglwyddo bagiau, fel nad oes raid i chi lwytho'r beic i lawr gyda'ch bagiau.
Gwasanaeth cerbyd wrth gefn llawn - rydym wrth law o hyd i roi lifft i chi os byddwch wedi blino!
Beic newydd 27-cyflymder hybrid TREK, newydd yn 2007.
Bag ar handlen y beic, cyfrifiadur beic a blwch cymorth cyntaf, clo, potel ddwr a chloch.
Mynediad at liniadur er mwyn i chi allu edrych ar eich e bost.