Mae teithiau
cerdded tywys yn ffordd wych o weld golygfeydd, hanes a diwylliant Cymru a
gwneud cyfeillion newydd ar hyd y daith. Gan fod ein teithiau wedi'u cefnogi'n
llawn, y cwbl sy'n rhaid i chi boeni amdano yw mwynhau'r golygfeydd!
Mae'n well gennym ni grwpiau
bychain, oherwydd gydag uchafrif o wyth cerddwr gallwn sicrhau gwasanaeth
rhagorol i'n cwsmeriaid. Byddwch yn cael eich trin fel unigolyn yn hytrach na
rhif, ac yr ydym yn gwneud ein gorau i fodloni eich holl anghenion personol.
Bydd tywysydd gyda chi drwy'r amser a bydd gennych y sicrwydd o wasanaeth
cerbyd wrth gefn llawn. Mae dyddiadau ymadael gosod ar gyfer ein teithiau tywys
drwy'r haf.
Beth sy'n cael ei gynnwys ar daith gerdded dywys?
Eich casglu / danfon i’r orsaf rheilffordd agosaf ar ddechrau a diwedd y daith.
Llety mewn B&B a gwestai o safon.
Pecyn cinio blasus bob dydd, wedi'i baratoi gyda chynhwysion lleol o ansawdd da.
Trosglwyddo bagiau, fel bod eich bagiau yn aros amdanoch yn eich llety bob nos.
Gwasanaeth cerbyd wrth gefn llawn - rydym wrth law o hyd i roi lifft i chi os byddwch wedi blino!
Mynediad at liniadur er mwyn i chi allu edrych ar eich e bost.