Ffordd y Bannau Llwybr lefel
uchaf anhygoel sy'n eich cyflwyno i'r gorau o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Yn cyfuno adfeilion Rhufeinig, cestyll ac abaty Normanaidd gyda thirweddau
rhewlifol, clogwyni tywodfaen coch a'r mynydd uchaf yn y Parc Cenedlaethol,
mae'r llwybr hwn yn cynnig gwyliau sy'n wahanol ac yn llawn boddhad. Llangadog
Y Fenni 100 milltir 8 diwrnod Egnïol
Archebu lle nawr neu rhowch alwad ar 01497
821134.
Taith Taf Taith hyfryd gyda
golygfeydd gwych ac amrywiaeth eang o dirwedd. Llwybrau wedi'u marcio'n dda a
thraciau lludw yn mynd â chi drwy ganol Bannau Brycheiniog ac yna i'r dde drwy
Dyffryn Taf. Mae'r llwybr yn mynd drwy drefi diwydiannol hanesyddol, traphontydd
cain a nifer o gestyll, wrth ddefnyddio coridorau gwyrdd i wahanu'r cerddwr
oddi wrth diwydiant modern. Wedi dod allan o geunant y Taf, mae'r llwybr yn dod
â chi allan i galon Caerdydd ac yn gorffen yn ysblander Bae Caerdydd.
Aberhonddu Caerdydd 54 milltir 6 days Canolig
Archebu lle nawr neu rhowch alwad ar 01497
821134.
Taith Dyffryn Wysg Darganfyddwch
Ddyffryn Wysg ar y daith gerdded pum niwrnod hon drwy dirwedd amrywiol. Nid yw
afon Wysg byth ymhell i ffwrdd wrth i chi gerdded i'r gogledd-orllewin ar
lwybrau troed wedi'u diffinio'n dda, yn ymweld â threfi Brynbuga, Y Fenni a
Chrughywel ar y ffordd. Mae'r daith yn darfod ym Mharc Cenedlaethol Bannau
Brycheiniog yn nhref fywiog Aberhonddu. Caerleon Aberhonddu 48 milltir 5
diwrnod Canolig
Archebu lle nawr neu rhowch alwad ar 01497
821134.
Abaty Llanddewi Nant Hodni
Treuliwch benwythnos ym mhrydferthwch y Mynydd Du, gan ddechrau yn nhref lyfrau
y Gelli. Mae'r llwybr yn arwain i fyny allan o Ddyffryn Gwy i uchediroedd
Gospel Pass, ac yna ar dir mwy gwastad i'ch gwesty yng Nghapel y Ffin am y
noson gyntaf. Treuliwch y bore trannoeth yn archwilio olion 12fed ganrif Abaty
Llanddewi Nant Hodni, yna ewch yn eich blaen i Longtown am yr ail noson. Mae'r
trydydd diwrnod yn dilyn llwybrau heddychlon Dyffryn Olchon ar y daith adref
i'r Gelli. Y Gelli Y Gelli ?30 milltir 3 diwrnod Canolig
Archebu lle nawr neu rhowch alwad ar 01497
821134.
Cyflwyniad i Glawdd Offa
Mwynhewch ran orau holl lwybr Clawdd Offa, ym marn rhai (ond gan osgoi'r swigod
sydd yn anorfod wrth deithio'r holl 177 milltir) drwy ddewis y daith ddeuddydd
hon sy'n rhoi blas o'r llwybr i chi. O'r Gelli rydych yn mynd i'r gogledd drwy
olygfeydd anghredadwy i dref fechan Kington. Ar ôl aros dros nos, mae'r llwybr
yn arwain drwy goedwigoedd, gweundiroedd a gwlad agored sy'n ddelfrydol ar
gyfer gwylio bywyd gwyllt. Mae'r allt olaf yn dod â chi i Drefyclawdd - a
diwedd y daith. Y Gelli Trefyclawdd 28 milltir 2 neu 3 diwrnod Egnïol
Archebu lle nawr neu rhowch alwad ar 01497
821134.
Penwythnos ar afon Gwy Dilynwch
afon Gwy o Loegr i Gymru, gan ddechrau ym mhentrefan bychan Bredwardine. Nid
yw'r llwybr yn crwydro ymhell o'r afon ar unrhyw adeg, gyda'i phyllau eog a'i
phontydd hanesyddol. Mwynhewch brofiad rhagorol wrth wylio adar ar hyd y rhan
hon o'r afon cyn cyrraedd tref lyfrau'r Gelli. Mae eich ail ddiwrnod o gerdded
yn mynd â chi ar hyd cyfres o lonydd a thraciau tawel i ben draw'r daith ym
mhentref Bochrwyd. Bredwardine Bochrwyd 17 milltir 2 ddiwrnod Hawdd
Archebu lle nawr neu rhowch alwad ar 01497
821134.
Tri Chastell Darganfyddwch
dreftadaeth ganoloesol cyfoethog y Gororau wrth eich pwysau ar y daith gerdded
gylchol tri diwrnod hon. Dechreuwch yng Nghastell Ynysgynwraidd (Skenfrith) a
mwynhewch y wlad hyfryd ar y ffordd i Gastell Y Grysmwnt a'ch noson gyntaf o
orffwys. Mae'r ail ddiwrnod yn dod â chi i Gastell Gwyn ac arhosiad dros nos ym
mhentref Llanwytherin. Ar y trydydd diwrnod, mwynhewch olygfeydd o'r Mynydd Du
wrth i chi ddychwelyd i Ynysgynwraidd. Ynysgynwraidd Ynysgynwraidd 18 milltir 3
diwrnod Hawdd
Archebu lle nawr neu rhowch alwad ar 01497
821134.