Mae Cymru yn wlad hardd, ar ei gorau o'i darganfod yn hamddenol...
Yn Drover Holidays, rydym yn cyfuno gwasanaeth proffesiynol, rhoi sylw i fanylion a chariad at fywyd awyr agored i gynnig gwyliau cerdded a beicio o
ansawdd da i chi a gwasanaeth llogi beiciau. Mae ein gwyliau yn amrywio o ran hyd o ddwy noson i ddwy wythnos, ac maent yn ffordd ddelfrydol o ddarganfod y rhan hardd hon o Gymru.
Yn iach, eco-gyfeillgar ac ymlaciol mae ein teithiau ymhell o fygdarth traffig ac yn ffordd dda o ymlacio a dianc rhag popeth. Felly, beth sy'n eich cadw?
Gallwn wneud hynny i gyd, a mwy. Gyda blynyddoedd o brofiad yn y diwydiant teithio a digon o wybodaeth leol, gallwn deilwra teithiau a llwybrau i'ch gofynion manwl chi. Waeth beth yr ydych yn chwilio amdano - beicio hamdden, penwythnos o gerdded, llogi beiciau plant, rhowch alwad i ni ac fe drefnwn ni bopeth. Yn Drover Holidays NI sy'n gwneud y gwaith caib a rhaw a chi sy'n mwynhau!
Mae'r holl luniau yn Hawlfraint y Goron 2006 oni bai y nodir yn wahanol