drover holidays drover holidays drover holidays drover holidays
drover holidays

LLOGI BEIC

Llogwch feic ac ewch i anturio!

Llogwch feic am gyhyd ag yr ydych ei eisiau, p'run ai hanner diwrnod neu bythefnos. Mae disgownt ar brisiau am gyfnodau llogi hwy, a diolch i'n cyfraddau teulu, nid oes raid i ddiwrnod allan yn beicio gyda'r plant gostio'r ddaear.

Rydym yn dilyn Cod Llogi Beiciau CTC, sydd wedi'i lunio i sicrhau eich diogelwch a'ch cysur. Mae manylion llawn ar gael yma..

BETH SYDD YN CAEL EI GYNNWYS YN Y PRIS?

FAINT MAE HYN YN EI GOSTIO?

Oedolion Plant Teulu1 Teulu rhiant sengl2 Tandem
Hanner diwrnod £15 £9 £40  £30  £35
Diwrnod  £25  £15  £65  £45  £60
Penwythnos3  £35  £20  £90  £60  £85
Wythnos  £70  £40 £180  £120  £175

1 2 Oedolion a 2 o blant
Mae Drover Holidays yn derbyn yr holl brif gardiau credyd a debyd 2 1 oedolyn a 2 blentyn
3 Dydd Gwener pm – Dydd Llun am

Ar ben hynny, rydym yn llogi beiciau trelar, trelars plant a seti plant i gymryd babanod, plant bach a phlant iau. Cysylltwch â ni i holi am y prisiau os ydych yn dymuno llogi'r eitemau hyn.

ARDAL EIN GWASANAETH

Gallwch ddewis casglu eich beic yn Y Gelli, neu gallwn ddanfon eich beic yn syth i'ch llety neu bwynt cyfarfod a gytunwn. Mae'r gwasanaeth hwn am ddim! Rydym yn danfon beiciau i'r trefi, pentrefi ac ardaloedd canlynol o amgylch Y Gelli. Aberhonddu, Bredwardine, Bochrwyd, Bronllys, Llanfair ym Muallt, Clifford, Clyro, Crughywel, Cwmdu, Dorstone, Eardisley, Erwood, Clas-ar Wy, Kington, Llandew, Llangors, Llanddewi Nant Hodni, Llyswen, Madley, Michaelchurch Escley, Llanbedr Castell-paen, Preston-on-Wye, Talgarth, Tal-y-bont ar Wysg, Y Dyffryn Aur, Dyffryn Olchon, Three Cocks, Tredomen, Trericert, Tretwr, Whitney-on-Wye.

Nid yw'r rhestr hon yn gyflawn, felly, cofiwch ofyn os nad ydych yn siwr a ydym yn gweithio yn eich lleoliad chi.

Yn llwglyd? Gallwn ddarparu pecynnau cinio blasus, o gynhwysion lleol, i chi fynd hefo chi ar eich taith. Y gost yw £5 yr un.

Mae'r holl luniau yn Hawlfraint y Goron 2006 oni bai y nodir yn wahanol