CYSYLLTIADAU
Efallai bydd y gwefannau canlynol yn ddefnyddiol neu'n ddiddorol pan fyddwch yn bwriadu cael trip i Gymru.
Siopau Beiciau
- Climb on Bikes
Un o'r siopau gorau yng Nghanolbarth Lloegr, yn llawn o bopeth y gallai beiciwr fod ei angen a chyda staff sy'n dîm proffesiynol o gymorth
gwirioneddol.
- Thorn Cycles
Mae'r arbenigwr hwn mewn beiciau teithio a thandemau yn nhref Bridgwater yng Ngwlad yr Ha'. Mae gan y cwmni arbenigedd anhygoel pan ddaw'n fater o adeiladu beiciau a nhw wnaeth ein beiciau ni pan aethom ar draws Affrica ac adeiladu'r tandem ar gyfer ein casgliad o feiciau ar log.
Teithio & Chludiant
- The Car Hire Centre
Safle gymharu dda, sy'n gadael i chi chwilio am y fargen llogi car gwerth gorau.
- Heart of Wales Line
Darganfyddwch hud a lledrith Canolbarth Cymru ar reilffordd Calon Cymru. Mae'r trên bach gwych hwn yn cyfuno'n dda â beicio yn ein taith hunan-dywys trwy Galon Cymru, yn mynd â chi drwy 'wlad o fryniau mwyn, gwyrdd a nentydd mynydd clir fel crisial.
- National Rail Enquiries
Defnyddiwch y wefan hon i gynllunio eich taith ar y trên
Llety
- Hardwicke Green
Wedi'i leoli yn harddwch Dyffryn Aur, tair milltir o'r Gelli, mae
gwesty B&B Hardwicke Green yn fan delfrydol i ddechrau anturio drwy
Swydd Henffordd a'r Mynydd Du. Wedi'i osod mewn chwe acer o ardd a dolau,
mae'r adeilad hanesyddol yn cynnig ystafelloedd en-suite cyfforddus.
- Holt Farm Holidays
Mae gan Holt Farm
bedwar eiddo gwyliau wedi'u hadfer yn ofalus ar gael rownd y flwyddyn.
Wedi'i leoli ym mhantiau a bryniau de-orllewin Swydd Henffordd, mae'r lle
hwn wedi'i raddio yn safon pedwar seren gan Groeso Cymru. Man perffaith am
benwythnos hir, egwyl canol yr wythnos neu wyliau teuluol, gydag ardal
ddelfrydol i gerdded a beicio ar garreg y drws hefyd!
- Fferm Llanerchindda
Mae Fferm
Llanerchindda Farm yn sefyll mewn hanner can acer o gefn gwlad hardd ger
tref Llanymddyfri. Gyda golygfeydd anhygoel o Ddyffryn Bran a Bannau
Brycheiniog a chyda Coedwig Crychan, y Mynyddoedd Cambriaidd a'r Mynydd Du
o fewn cyrraedd rhwydd, mae'n lle delfrydol ar gyfer anturio yn yr awyr
agored. Gall y gwesty B&B a hunanarlwyo teuluol baratoi ar gyfer 35 o
bobl.
- Old Radnor Barn
B&B pedair seren, cyfeillgar ym mhentref Talgarth. Wedi'i leoli ym
Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae'r adeiladau rhestredig Gradd 2,
300 mlwydd oed wedi cael eu hadfer yn gariadus gan y perchnogion, Stephen
ac Lynn. Canolfan wych ar gyfer fforio drwy'r Mynyddoedd Duon.
- Wales Holidays
Mae Wales Holidays yn un o'r asiantaethau bythynnod gwyliau annibynnol
mwyaf yn y DU. Gallwch chwilio dwsinau o dai i'w llogi drwy Ganolbarth
Cymru drwy'r system archebu ar-lein ragorol.
Twristiaeth
- Croeso Cymru / Visit Wales
Gwefan twristiaeth swyddogol Cymru. Mae gan Croeso Cymru safleoedd
penodol ar gyfer beicio a cherdded
- Wales1000things
Ateb Cymru i YouTube
- gwefan lawn o gynnwys a gynhyrchwyd gan y defnyddwyr am weithgareddau
yng Nghymru. Gyda chefnogaeth Croeso Cymru, mae gan y safle lawer o
wybodaeth ddiddorol a gallwch lwytho eich lluniau chi eich hunain i fyny
i'r oriel luniau sy'n tyfu'n barhaus.
- Wye Valley Canoe Centre
Wedi'i lleoli ar
lannau afon Gwy yn y Clas ar Wy, 4 milltir o'r Gelli, mae'r ganolfan yn
llogi canŵs a chaiacau o Ganada. Padlwch i lawr yr afon i'r Gelli mewn 2
awr, neu i Whitney (trip 10 milltir, 4 awr). Mae costau llogi yn cynnwys
eich casglu a'ch cludo yn ôl i'r Clas ar Wy.
Yr Ardal Leol
- Brecon Beacons National Park
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Mae Bannau Brycheiniog ar ein stepen drws a byddwch yn cael yr holl
wybodaeth yr ydych ei hangen am ymweld â'r parc ar y wefan swyddogol.
- Bredwardine and Brobury
Mae Bredwardine a Brobury yn sefyll ar afon Gwy, tua 8 milltir o'r
Gelli. Mae gwefan y gymuned yn ffynhonnell gwybodaeth hanesyddol ac
ymarferol ragorol am y pentrefi cyfagos hyn.
- Y Gelli
Rydym wedi ein lleoli yn nhref fechan Y Gelli, edrychwch ar y wefan
swyddogol i gael gwybod popeth yr ydych angen ei wybod am y dref.
Gwyliau Lleol
- Gŵyl Y Gelli
Mae'r Gelli yn cael
ei thrawsnewid gan yr ŵyl lenyddol flynyddol, a ddechreuwyd yn 1988 gan grŵp
bychan o bobl leol. Yn awr mae'n enwog yn fyd-eang fel un o'r gwyliau
llyfrau gorau sydd i'w cael. Mae'n anodd cael llety yn ystod yr ŵyl, ond
mae gwersyll dros dro Tangerine Fields yn ddewis gwych.
- The Ludlow Marches Food & Drink Festival
Mae'r ŵyl hon wedi bod yn digwydd ers 1995 ac mae'n mynd yn fwy ac yn
fwy bob blwyddyn. Cyfle rhagorol i flasu peth o'r cynnyrch rhanbarthol
gorau yn heulwen mis Medi.