drover holidays drover holidays drover holidays drover holidays
drover holidays

ENW CYSWLLT & LLEOLIAD

Anna Heywood & Luke Skinner
Stryd y castell yn ystod Gwyl Y Gelli E bost:
Ff&o^;n: 01497 821134

I archebu lle ac i wneud ymholiadau, llenwch ein ffurflen ar lein.

BLE'R YDYM NI?

Lleolir Drover Holidays yn nhref Y Gelli, sydd ar ffiniau Cymru yn sir Powys.

TRÊN

Yn anffortunus, nid oes gan Y Gelli wasanaeth trenau, ac mae'r gorsafoedd agosaf yn Henffordd (22 milltir/35 km i'r dwyrain), Llanfair ym Muallt (19 milltir/ 30 km i'r gogledd-orllewin) a'r Fenni (27 milltir/43 km i'r de). Ar deithiau sy'n cael eu harwain a theithiau hunan-dywys, rydym yn eich casglu o'r orsaf rheilffordd agosaf at bwynt gadael eich taith a gallwn eich gollwng mewn gorsaf ar ddiwedd eich trip er mwyn ichi ddal y trên adref.

I wirio amseroedd trenau, costau ac am wybodaeth am unrhyw daith ar y rheilffordd yn y DU, ewch i wefan National Rail Enquiries neu rhowch alwad i 08457 48 49 50 (+44 20 7278 5240 o dramor).

FFORDD

map o'r Gelli

Os ydych yn teithio o Lundain, cymrwch yr M4 cyn belled â Chyffordd 24 (Casnewydd).  Yna cymrwch yr A449 a'r A40 i Grughywel, gan fynd drwy'r Fenni ar eich ffordd. Ar ôl Crughywel, trowch i'r dde i'r A479 i Dalgarth, ac yna yr A4079 sydd wedi'i arwyddo i'r Gelli. Trowch i'r dde i'r A438, ac arhoswch ar y ffordd honno (sy'n dod yn ffordd B4350) nes i chi gyrraedd Y Gelli. Y pellter cyfan yw 150 milltir (240 km).

O Firmingham, cymrwch yr A456 cyn belled â Tenbury Wells, yna'r A4112. Arhoswch ar y ffordd hon, sy'n dod yn ffordd A44 wrth iddi fynd drwy Lanllieni (Leominster), ac yna mae'n mynd yn ôl i fod yr A4112. Ychydig ar ôl mynd trwy Kinnersley, dilynwch yr arwyddion am yr A438. Cymrwch y ffordd hon cyn belled â Chleirwy, trowch i'r chwith ar hyd y B4351 am y filltir neu ddwy olaf i'r Gelli.

Am gyfeiriadau manwl o unrhyw le yn y DU cliciwch yma. Os byddwch yn archebu gwyliau gyda ni, byddwn yn rhoi cyfeiriadau llawn i chi yn eich llythyr o gadarnhad.

AWYREN

Y maes awyr agosaf yw Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd (70 milltir/110 km i'r de).

Mae'r holl luniau yn Hawlfraint y Goron 2006 oni bai y nodir yn wahanol