Mae Drover Holidays yn gwmni sy'n cael ei redeg gan y perchnogion Luke Skinner ac Anna Heywood. Yn y brifysgol y gwnaethom gyfarfod a deall ar unwaith ein bod yn rhannu hoffter o deithio a bywyd awyr agored. Ein hantur gyntaf oedd ffawd heglu o Gymru i Foroco, ac ar ôl hynny aethom i grwydro o gwmpas Ewrop a De America, yn bennaf ar droed ac weithiau gyda cheffylau pwn!
Yn Awst 2004, yn dilyn cyfnod tair blynedd yn gweithio yn y diwydiant teithio (Luke) ac archeoleg (Anna), i ffwrdd â ni ar daith 30,000km. Ein bwriad oedd pedalu yr holl ffordd o'r DU i Dde Affrica. Ar ôl 615 diwrnod ar y ffordd, cyrhaeddasom Cape Town yn Ebrill 2006. Newidiodd y daith Affrica ar feic ein bywydau, ac yr oedd yn fraint cael profiad o'r amrywiaeth eang o ddiwylliannau, tirluniau a digwyddiadau (heb sôn am gyflwr y ffyrdd) yn uniongyrchol ar hyd y ffordd.
Fe'n hysbrydolwyd gan ein hoffter o feicio a'n cred mai'n araf deg y mae gweld byd natur, ar ddwy droed neu ddwy olwyn o ddewis, i sefydlu ein busnes ein hunain. Dyna sut daeth Drover Holidays i fodolaeth, ac yr oedd y penderfyniad i ganolbwyntio ar Ganolbarth Cymru yn naturiol gan fod Luke wedi'i eni a'i fagu yn nhref leol Aberhonddu. Er i ni deithio o gwmpas y byd, rydym yn credu mai Ynysoedd Prydain yw un o'r rhannau prydferthaf o'r byd.
Rydym yn credu fod cerdded a beicio yn ffordd wych o fwynhau Cymru ar ei gorau, yn ogystal â bod yn ddewis iach a chynaliadwy o gymryd gwyliau a charedig i'r amgylchedd. Rydym yn deall fod gan bawb wahanol anghenion a syniadau, a dyna pam yr ydym yn teilwra eich trip. Edrychwn ymlaen at drefnu eich antur Gymreig berffaith a'ch croesawu chi i'r rhan arbennig iawn hon o'r byd.
Mae'r holl luniau yn Hawlfraint y Goron 2006 oni bai y nodir yn wahanol