CWESTIYNAU CYFFREDIN
Oes gennych chi gwestiwn? Edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin, ac os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn edrych amdano, cysylltwch â ni.
Cwestiynau cyffredin a ofynnir am ein teithiau
- Ydy'r teithiau yn addas i blant?
Mae'r mwyafrif o'n teithiau yn ddelfrydol i blant, gan nad yw'r
pellteroedd yn fawr. Ar ein teithiau beicio, un dewis yw defnyddio trelar,
neu tag-a-long
, sy'n cael ei roi'n sownd wrth feic oedolyn. Hyd yn
oed os bydd eich plentyn wedi arfer beicio adref, gall flino ar ôl nifer o
oriau o feicio mewn amgylchedd anghyfarwydd. Mae'r beic trelar yn rhoi
cyfuniad da o ryddid a rheolaeth - mae eich plentyn yn pedalu, ac yna,
gallwch chi eu tynnu pan fyddant wedi blino!
- Beth yw maint y grŵp ar daith dywys?
Rydym yn cymryd
rhwng pedwar ac wyth gwestai ar bob taith dywys. Gyda grŵp o'r maint hwn,
gallwn ddarparu ar gyfer anghenion unigol a pharhau i sicrhau fod pawb yn
cael gofal da.
- A oes tâl ychwanegol am unigolyn ar ei ben ei
hun?
Mae ein teithiau tywys yn gyfle gwych i unigolion gyfarfod cymar o'r
un meddylfryd o bosibl! Ni chodir tal ychwanegol ar unigolion sy'n ymuno â
thaith dywys, ond ar deithiau hunan-dywys, gall unigolyn dalu tal
ychwanegol. I logi beic a'i ddanfon a'i gasglu, codir isafswm ffi o £30
wrth ei archebu. Cysylltwch â ni am fanylion pellach os ydych yn deithiwr
ar eich pen eich hun.
- Ydw i angen unrhyw ymarfer cyn i mi ddod ar
daith Drover Holidays?
I gael y gorau o'ch
gwyliau, mae'n help os ydych yn rhesymol ffit. Mae ein teithiau cerdded a
beicio yn cael eu graddio yn unol â pha mor egnïol ydynt, ac os ydych yn
newydd i un o'r ddau weithgaredd, rydym yn argymell eich bod yn dewis
taith “Gradd 1”.
- Pwy sy'n cario fy magiau?
NI sy'n gwneud
hynny! Ar bob taith, p’run ai taith dywys neu hunan-dywys, mae eich bagiau
yn cael eu trosglwyddo i'ch llety ar gyfer y noson ddilynol. Rydym yn
argymell eich bod yn mynd â bag bychan gyda chi am y diwrnod ar deithiau
cerdded. Mae bagiau bar wedi'u gosod ar y beiciau a gallwn ddarparu rhac a
phac sedd hefyd. Felly bydd gennych ddigon o le i'ch camera, pecyn cinio,
cot law ac unrhyw eitemau bach y gallech fod eu hangen yn ystod y dydd.
Cwestiynau am feicio
- Pa fathau o feiciau ydych chi'n eu defnyddio?
Mae ein beiciau oedolion yn groesiadau o ansawdd, wedi'u gwneud gan TREK. Y model yw FX 7.3, ac mae gennym wahanol feintiau i sicrhau fod eich beic llog a chwithau'n cyfateb yn dda. Mae'r rhain yn feiciau cyfforddus iawn, gyda darnau o ansawdd da, yn ddelfrydol ar gyfer ffyrdd a llwybrau graean. Mae
gan y beiciau 27 gêr, sydd yn gweithio gyda symudydd gerau hawdd i'w ddefnyddio.
Mae'r tandem wedi cael ei adeiladu â llaw yn y DU gan gwmni arbenigol Thorn Cycles. Mae'r model Explorer yn ddelfrydol i'r rhai ohonoch sy'n newydd i farchogaeth tandem ac mae'n gyfforddus a chadarn iawn.
Mae ein beiciau ieuenctid yn cael eu gwneud gan Giant. Maent ychydig yn llai na'r beiciau oedolion ac mae ganddynt hongiad blaen ac maent yn edrych dipyn mwy cadarn. Rydym wedi canfod fod beiciau mynydd yn fwy poblogaidd gyda phobl ifanc a gall y beiciau ymdopi â chnoc neu ddwy a gwyriad disymwth oddi ar y ffordd. Delfrydol i feicwyr ifanc, llawn bywyd!
I blant, rydym yn defnyddio model arall o stoc plant Giant, y model MTX. Gydag olwynion rhwng 20” a 24”, mae'r beiciau bach cadarn hyn yn ddelfrydol i blant rhwng 6 ac 11 oed. Mae gan y beiciau nifer o gerau ac maent yn addas i fechgyn a merched.
- Oes raid i mi fod yn feiciwr medrus i ddod ar un o'ch teithiau?
Mae pob un o'n
gwyliau wedi'u llunio ar gyfer beicwyr hamdden felly nid oes raid i chi
fod yn arwr hyd yn oed ar y llwybrau anoddaf. Os oes unrhyw amheuaeth,
rhowch alwad i ni a byddwn yn hapus i drafod y llwybr mwyaf priodol i chi.
- Sut mae'r llwybrau yn cael eu graddio?
Hawdd - addas ar gyfer unrhyw un sy'n gallu mynd ar gefn beic. Pellteroedd bychain bob dydd, ac ychydig o fryniau serth. Rhain fyddai'r llwybrau mwyaf addas i deuluoedd gyda phlant ifanc.
Canolig - mae angen dipyn mwy o ffitrwydd a bod yn fwy cyfarwydd â beicio. Gall y pellteroedd dyddiol fod yn hwy a/neu mae ychydig mwy o fryniau ar y daith. Mae'r rhain yn parhau i fod yn addas i deuluoedd, cyn belled ag y bo'r plant yn feicwyr hyderus.
Egnïol - nid oes raid i chi fod yn ffanatig am feicio ond byddai lefel resymol o ffitrwydd yn eich helpu i gael mwy o bleser o'ch gwyliau.
Mae'r teithiau hyn yn dueddol o gynnwys dyddiau hwy ar y beic a thir mynyddog ar brydiau, ond cewch ddigon o amser i fwynhau'r wlad o'ch cwmpas. Byddai teuluoedd gyda phlant yn eu harddegau yn mwynhau'r teithiau hyn, mae'n siŵr
- Pa mor bell fyddaf yn beicio bob dydd?
Mae pellteroedd yn
amrywio yn ôl y daith - unrhyw beth o 10 - 12 milltir ar ein llwybrau
hawsaf hyd at 35-50 milltir ar rai o'n teithiau mwy heriol. Neu, fel
arall, llogwch feiciau gennym ni a gallwn deilwra eich teithiau gyda
phellteroedd dyddiol i'ch siwtio.
- A allaf ddefnyddio fy meic fy hun?
Rydym yn treulio
llawer o amser yn dewis beiciau sy'n cyfuno cysur a pherfformiad, er mwyn
i chi allu mwynhau eich beicio gyda ni. Fod bynnag, ar ôl beicio drwy
Affrica am ugain mis ar ein beiciau ein hunain, rydym yn deall sut gallwch
fynd yn hoff iawn o'ch ceffyl eich hun! Felly, wrth gwrs mae croeso i chi
ddod â'ch beic eich hun ar un o'n teithiau, ac yr ydym yn cynnig disgownt
o 10% os byddwch yn gwneud hynny.
- Pa offer/dillad sydd raid i mi ddod gyda mi?
Mae pob un o'n
beiciau wedi'u gosod gyda bagiau bar a gallwn ddarparu rhaciau a phecynnau
sedd hefyd, felly nid oes rhaid i chi ddod ag unrhyw beth felly. Rydym yn
cyflenwi helmedau, pympiau, blychau cymorth cyntaf, citiau trwsio tyllau,
cyfrifiaduron beic (yn mesur cyflymder, pellter ac yn y blaen) a dŵr potel
i bawb ar ein holl becynnau teithiau a llogi beiciau. Rydym yn argymell
eich bod yn dod â chot law ysgafn rhag ofn iddi lawio. Ar deithiau hwy,
efallai byddech yn hoffi gwisgo trowsus beicio byr neu ddillad isaf gyda
phadin, menig beicio ac esgidiau beicio (neu trainers gyda gwadn stiff)
gan y bydd y rhain yn gwneud eich taith yn fwy cyfforddus. Mae sbectol haul
yn diogelu eich llygaid rhag olau llachar a phryfetach hefyd - perygl
neilltuol os byddwch yn hedfan i lawr y gelltydd ar feic! Os ydych angen
unrhyw gyngor neu argymhellion am gynhyrchion, cysylltwch â ni a byddwn yn
hapus i'ch helpu.
Cwestiynau am gerdded
- Sut mae'r llwybrau yn cael eu graddio?
Hawdd - yn bennaf ar lwybrau troed a llwybrau wedi'u harwyddo da gydag ychydig o fryniau serth neu anawsterau mawr eraill. Yn neilltuol o addas ar gyfer teuluoedd neu unrhyw un sy'n edrych am wyliau tawel, ymlaciol.
Canolig - gall y llwybrau fod fymryn yn anoddach, gyda rhai adrannau serth neu dir anodd o dan draed. Er bydd y ffordd wedi'i harwyddo fel rheol, efallai bydd angen peth mordwyo ar deithiau hunan-dywys. Yn addas iawn i deuluoedd actif.
Egnïol - bydd y llwybrau yn anoddach i'w dilyn a gall rhannau o'r daith groesi tir bryniog agored lle bydd angen sgiliau mordwyo da. Gall y
tir o dan eich traed fod yn greigiog, gorsiog neu'r beryglus mewn ffordd arall ac mae'r llwybrau hyn yn gweddu orau i unigolion neu deuluoedd gyda pheth profiad o gerdded bryniau.
- Pa mor bell fyddaf yn cerdded bob dydd?
Mae pellteroedd yn
amrywio yn ôl y daith, yn amrywio o 5 i 18 milltir y diwrnod. Cofiwch
hefyd, i gymryd gradd y daith i ystyriaeth - mae taith sy'n ymddangos fel
llawer o filltiroedd yn gallu cael ei chyflawni yn gyfforddus mewn un
diwrnod os bydd y daith yn dilyn dyffryn afon a heb fawr o ddringo, er
enghraifft.
- Pa offer/dillad sydd raid i mi ddod gyda mi?
Rydym yn argymell
eich bod yn dod â chot law a thrwser glaw hefyd , o bosibl, i'ch cadw'n
sych os bydd hi'n bwrw. Mae esgidiau cerdded cyfforddus yn hanfodol ac ar
lwybrau sy'n cynnwys llawer o esgyn a disgyn, efallai byddwch yn canfod
fod polion trecio yn ddefnyddiol gan eu bod yn cymryd y pwysau oddi ar y
pengliniau.
Mae bag bach yn ddefnyddiol ar gyfer cario eich camera, binocwlars, waled
ac eitemau bychain eraill. Rydym yn rhoi blwch cymorth cyntaf i chi (yn
cynnwys plasteri swigod!) felly nid oes raid i chi ddod ag un eich hun.
Argymhellir het, sbectol haul a photel o hylif haul yn yr haf.
Os byddwch angen unrhyw gyngor neu argymhellion am gynhyrchion, cysylltwch
â ni a byddwn yn falch o'ch helpu.
Methu dod o hyd
i'r hyn yr ydych yn chwilio amdano? Anfonwch e bost atom i [email protected] neu
rhowch alwad ffôn i ni ar 01497 821134 a byddwn yn hapus i ateb unrhyw gwestiwn
arall.