drover holidays drover holidays drover holidays drover holidays
drover holidays

POLISI PREIFATRWYDD

Mae'r polisi preifatrwydd hwn yn gosod allan sut mae Drover Holidays yn defnyddio a diogelu unrhyw wybodaeth a roddwch i Drover Holidays pan fyddwch yn defnyddio'r wefan hon.

Mae Drover Holidays yn ymrwymo i sicrhau fod eich preifatrwydd yn cael ei ddiogelu. Os byddwn yn gofyn i chi roi gwybodaeth neilltuol i ni, a fyddai'n caniatáu i chi gael eich adnabod pan fyddwch yn defnyddio'r wefan hon, yna gallwn eich sicrhau na fydd yn cael ei defnyddio dim ond yn unol â'r datganiad preifatrwydd hwn.
Gall Drover Holidays newid y polisi hwn o dro i dro drwy ddiweddaru'r dudalen hon. Dylech edrych ar y dudalen hon o dro i dro i wneud yn siŵr eich bod yn fodlon gydag unrhyw newidiadau. Mae'r polisi hwn yn weithredol o 1af Ebrill 2007.

Beth ydym yn ei gasglu?

Gallwn gasglu'r wybodaeth bersonol isod:

Beth yr ydym yn ei wneud gyda'r wybodaeth a gasglwn

Rydym angen yr wybodaeth hon er mwyn deall eich anghenion a rhoi gwasanaeth gwell i chi, ac yn neilltuol oherwydd y rhesymau canlynol:

Diogelwch

Rydym yn ymrwymedig i sicrhau fod eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel. Er mwyn rhwystro mynediad neu ddatgeliad heb awdurdod, rydym wedi gosod gweithdrefnau ffisegol, electronig a rheoleiddiol yn eu lle i ddiogelu'r wybodaeth a gasglwn ar lein a'i chadw'n saff.

Cysylltiadau â gwefannau eraills

Gall ein gwefan gynnwys cysylltiadau i'ch galluogi chi i ymweld â gwefannau eraill o ddiddordeb i chi yn hawdd. Fodd bynnag, unwaith byddwch wedi defnyddio'r cysylltiadau hyn i adael ein safle ni, dylech nodi nad oes gennym unrhyw reolaeth dros y wefan arall honno. Felly, ni allwn ni fod yn gyfrifol am warchodaeth a phreifatrwydd unrhyw wybodaeth a roddwch wrth ymweld â safleoedd o'r fath ac nid yw safleoedd o'r fath yn cael eu rheoli gan y datganiad preifatrwydd hwn. Dylech fod yn wyliadwrus ac edrych ar y datganiad preifatrwydd sy'n berthnasol i'r wefan dan sylw.

Rheoli eich gwybodaeth bersonol

YGallwch ddewis atal casgliad a defnydd eich gwybodaeth bersonol drwy'r dulliau canlynol:

Ni fyddwn yn gwerthu, dosbarthu neu hurio eich gwybodaeth bersonol i drydydd parti oni bai bod rhaid i ni yn ôl y gyfraith.

Gallwch ofyn am fanylion yr wybodaeth bersonol yr ydym yn ei dal amdanoch o dan Ddeddf Diogelu Data 1998. Bydd ffi fechan yn daladwy. Os hoffech gopi o'r wybodaeth a ddelir amdanoch cysylltwch â ni ar y ffôn (01497 821134) neu e bost [email protected]. i drefnu hyn. Mae'n rhaid i ni gael cais ysgrifenedig cyn allwn fwrw ymlaen.
Os credwch fod unrhyw ran o'r wybodaeth a ddaliwn amdanoch yn anghywir neu'n anghyflawn, anfonwch e bost atom mor fuan ag y bo modd ar [email protected]. Byddwn yn cywiro unrhyw wybodaeth a ganfyddir ei bod yn anghywir yn brydlon.

Mae'r holl luniau yn Hawlfraint y Goron 2006 oni bai y nodir yn wahanol