Ymwadiad Gwefan Drover Holidays
Mae'r wybodaeth a roddir yn y
wefan hon ar gyfer dibenion gwybodaeth gyffredinol yn unig. Rhoddir yr
wybodaeth hon gan Drover Holidays a thra yr ydym yn ceisio cadw'r wybodaeth yn
gyfredol ac yn gywir, nid ydym yn cyflwyno unrhyw achos nac yn gwarantu mewn
unrhyw fodd, yn union neu drwy awgrymiad, am gyflawnrwydd, cywirdeb,
dibynadwyaeth, priodoldeb nac argaeledd mewn perthynas â'r wefan neu'r
wybodaeth, cynnyrch, gwasanaethau, neu graffeg perthynol ar y wefan ar gyfer
unrhyw bwrpas. Bydd unrhyw goel a roddwch ar wybodaeth o'r fath felly ar eich
risg chi eich hun.
Mewn unrhyw achos ni fyddwn ni'n
atebol am unrhyw golled neu ddifrod yn cynnwys heb gyfyngiad, colled neu
ddifrod uniongyrchol neu ddilynol, neu unrhyw golled neu ddifrod bynnag yn codi
o golli data neu elw sy'n codi o neu mewn perthynas â defnydd y wefan hon.
Drwy'r wefan hon rydych yn gallu
cysylltu â gwefannau eraill nad ydynt o dan reolaeth Drover Holidays. Nid oes
gennym unrhyw reolaeth dros natur, cynnwys nac argaeledd y gwefannau hynny. Nid
yw cynnwys unrhyw gysylltiad yn awgrymu argymhelliad o reidrwydd nac yn ategu'r
barnau a fynegir o'u mewn.
Gwneir pob ymdrech i gadw'r wefan
yn mynd ac yn rhedeg yn esmwyth. Fodd bynnag, nid yw Drover Holidays yn cymryd
unrhyw gyfrifoldeb am ac ni fydd yn atebol am y wefan yn bod allan o'ch
cyrraedd dros dro oherwydd materion technegol tu hwnt i'n rheolaeth.
Amodau Archebu Drover Holidays
Rydym yn rhoi llawer o
ymdrech i mewn i wneud eich gwyliau yn brofiad cofiadwy a phleserus. Cymrwch
funud neu ddau i ddarllen drwy'r amodau canlynol, cyn bwrw ymlaen gyda'ch
archeb. Mae'r Amodau Archebu l yn amlinellu hawliau ac ymrwymiadau'r cwsmer a
rhai Drover Holidays.
- 1.EICH CYTUNDEB GYDA NI
Bydd cadarnhad ysgrifenedig o'ch archeb yn cael ei anfon atoch yn y post. Gwiriwch y manylion a dychwelwch gopi wedi'i lofnodi atom. Nid yw eich gwyliau wedi'u cadarnhau nes byddwn yn derbyn copi wedi'i lofnodi gennych. Pan dderbyniwn y copi wedi'i lofnodi bydd cytundeb gorfodol rhyngoch chi a Drover Holidays.
- 2.TALIADAU
Rhaid i chi dalu blaendal er mwyn cadarnhau eich gwyliau. £50 yr unigolyn
ar gyfer gwyliau byr (hyd at 3 noson) a £75 yr unigolyn am wyliau hwy (mwy
na 3 noson). Mae'r gweddill yn daladwy 6 wythnos cyn ymadael. Os byddwch
yn archebu o fewn 6 wythnos i'r dyddiad ymadael, rhaid talu'r balans llawn
wrth archebu'r gwyliau.
Bydd methu talu'r balans o fewn 6 wythnos o'r dyddiad ymadael yn arwain at
ganslo eich gwyliau.
Mae tâl ychwanegol o 2% yn daladwy os talwch gyda cherdyn credyd. Ni
chodir tâl am gardiau debyd.
- 3.YSWIRIANT
Rydym yn argymell eich bod yn cael yswiriant teithio i ddiogelu eich hun
pan fyddwch ar wyliau. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau fod y polisi yn
eich diogelu am gerdded / beicio.
- 4.BEICIAU AC OFFER PERTHYNOL (TEITHIAU BEICIO
YN UNIG)
Mae'r beic sy'n cael ei logi, yn cynnwys yr holl offer atodol ac ategion a
gyflenwir yn parhau i fod yn eiddo Drover Holidays ac ni ddylech werthu,
llogi na rhoi benthyg y beic.
Mae'r beic yn cael ei gyflenwi mewn cyflwr da a rhaid i chi ymgymryd i
beidio â'i gamddefnyddio, ac i'w ddychwelyd yn yr un cyflwr â phan
dderbyniwyd ef (ar wahân i draul arferol) i'r lle ac ar y dyddiad ac amser
dyladwy a gytunwyd. Rydym yn cadw'r hawl i godi tâl arnoch am yr holl
ddifrod a wneir i'r beic yn ystod cyfnod eich gwyliau. Mae rhestr lawn o
gostau difrod ar gael ar eich cais.
- 5.NEWID EICH GWYLIAU
Os ydych eisiau newid eich gwyliau, byddwn yn gwneud ein gorau i'ch
plesio, yn dibynnu ar eich anghenion ac a yw'r atebion ar gael. Mae ffi
weinyddol o £15.00 yr archeb yn daladwy am newidiadau. Os bydd eich
newidiadau yn cynnwys gwella eich llety, yna gofynnir i chi dalu'r costau
ychwanegol.
- 6.CANSLO EICH GWYLIAU<
Rhaid i chi ein hysbysu yn ysgrifenedig os ydych yn dymuno canslo eich
gwyliau. Mae ffioedd canslo amrywiol yn berthnasol i'ch gwyliau:
Canslo mwy na 42 diwrnod cyn ymadael: colli blaendal
Canslo o fewn 42 a 28 diwrnod o'r dyddiad ymadael: 50% o gostau'r gwyliau
Canslo o fewn 28 a 14 diwrnod o'r dyddiad ymadael: 65% o gostau'r gwyliau
Canslo o fewn 14 a 3 diwrnod o'r dyddiad ymadael: 80% o gostau'r gwyliau
Canslo o fewn 3 diwrnod i'r dyddiad ymadael: 100% o gostau'r gwyliau
- 7.NEWIDIADAU A CHANSLO GENNYM NI
Rydym yn cadw'r hawl i ganslo, diwygio neu newid eich gwyliau ar unrhyw
adeg. Lle bydd angen, byddwch yn cael cynnig gwyliau eraill neu ad-daliad
llawn ar eich gwyliau.
Ni allwn eich digolledu am gostau teithio na llety mewn perthynas â'ch
gwyliau nad oeddech wedi'u harchebu trwyddom ni.
- 8.NEWIDIADAU AM RESYMAU TU HWNT I'N RHEOLAETH
Ni allwn fod yn atebol na thalu unrhyw iawndal am unrhyw ddiddymiad,
diwygiad neu newid oherwydd grymoedd tu hwnt i'n rheolaeth, yn cynnwys ond
heb eu cyfyngu i ryfel neu fygythiad rhyfel, terfysg, anghydfod sifil,
gweithgaredd terfysgwyr (gwirioneddol neu fygythiad), anghydfod
diwydiannol, trychineb naturiol neu niwclear, tân, dechrau epidemig neu
achosion episöotig, tywydd garw a phob digwyddiad arall na allwn ni , gyda
phob gofal rhesymol, fod wedi eu rhagweld neu eu hosgoi.
- 9.DIOGELWCH
Nid yw'n gwyliau angen gwybodaeth arbenigol na lefelau uchel o fedrusrwydd
wrth feicio na cherdded. Fodd bynnag, os nad ydym yn hollol fodlon eich
bod yn feiciwr digon medrus neu'n credu nad ydych yn feddygol ffit, rydym
yn cadw'r hawl i wrthod rhoi beic i chi. I osgoi risg ddiangen i chi a
diffyg cysur efallai byddwn yn awgrymu gwyliau haws i chi neu lwybr
personol.
- 10.POLISI PREIFATRWYDD
lang=EN style='mso-ansi-language:EN'>
Gallwch weld ein polisi preifatrwydd yma
- 11. GWEITHDREFN GWYNION
Er bod hynny'n annhebygol, os byddwch yn anfodlon gyda Drover Holidays ac
mae gennych reswm i gwyno, cysylltwch â ni ar unwaith er mwyn i ni gael
delio â'ch pryderon. Gwnewch yn siŵr fod unrhyw gwynion llafar yn cael eu
gwneud yn ysgrifenedig hefyd a'u hanfon i'n swyddfa o fewn 28 diwrnod ar
ôl i chi ddychwelyd.